top of page

Ni fyddwch byth yn dadlau eich dibyniaeth

Pam na alla i reoli fy yfed? Nid yw pobl nad sy’n alcoholigion yn gorfod gofyn y cwestiwn hwn iddyn nhw eu hunain. Nid yw’r syniad o yfed dan reolaeth yn dod i feddwl y rhai nad sydd erioed wedi cael problem i reoli eu hyfed. I alcoholigion, mae hwn yn gwestiwn sy’n rhan o’u meddwl drwy’r dydd ac maen nhw’n gyson yn cael eu tynnu i mewn i ddadleuon mewnol am faint o alcohol y maen nhw’n ei yfed. Isod, mae ymresymiad mewnol safonol y bydd alcoholig yn ei chael ac yn anochel yn ei cholli:

1) Byddwn i’n hoffi cael diod heno ond rwyf wedi bod mewn helynt yn ddiweddar, efallai y dylwn gael noson sych.

2) Noson sych? Os bydd yn rhaid i chi beidio ag yfed, yna mae hynny’n golygu bod gennych broblem! Mae’n rhaid i chi brofi nad oes gennych broblem drwy yfed a dangos y gallwch chi ei reoli.

3) Ydych chi’n siŵr?

4) Ydw, meddyliwch beth a allai ddigwydd petaech chi’n cymryd noson sych, mae’n bosibl y byddai’n rhaid i chi gyfaddef i chi eich hun bod gennych broblem oherwydd nad yw’n ddiogel i chi fynd yn agos at alcohol,

5) Ie, rydych chi’n iawn. Nid wyf am orfod gwneud hynny.

6) Da iawn, felly rydyn ni’n cytuno! Rydych chi’n mynd i gael diod heno er mwyn dangos nad oes gennych broblem gydag yfed, oherwydd os na fyddech chi’n yfed heno, byddai’n golygu eich bod yn alcoholig.

7) Byddai, dw i’n credu beth bynnag. Rydw i mor ddryslyd erbyn hyn felly'r peth i’w wneud yw cael diod.

Mae’r sgwrs fewnol yn hir, poenus a bron yn amhosibl i’w hennill; bob tro bydd y ddibyniaeth yn rhoi un opsiwn i’r adict na ellir dianc oddi wrtho - cael diod. Dyna pam mae’n hanfodol i beidio byth bythoedd cael y sgwrs hon yn y lle cyntaf. Mae’n amhosibl ennill. Gall y ddibyniaeth barhau i ddadlau a gwrthdynnu a mynnu diod yn ddiben draw hyd nes y bydd pob gwrthsafiad wedi’i ddileu. Sut ydych chi’n delio gyda phŵer y salwch? Bydd y camau canlynol isod yn helpu:

1) Cydnabod bod y meddyliau mewnol sy’n rhoi caniatâd yn ceisio eich helpu ond yn eich arwain tuag at ddioddef yn lle hynny. Mae pob meddwl sy’n rhoi caniatâd mewn gwirionedd yn geisiadau gan eich meddwl i’ch arwain i ffwrdd oddi wrth deimladau na ellir eu rheoli.

2) Peidiwch â dadlau nac ymladd gyda’r meddyliau. Yn lle hynny, croesaw-wch hwy i mewn a diolchwch iddyn nhw am helpu, Cysurwch nhw, tawelwch nhw a dywedwch wrthyn nhw eich bod yn ddiolchgar am bob peth y maen nhw wedi ceisio ei wneud trosoch.

3) Dywedwch wrth y meddyliau mai chi sy’n ben ac y gallan nhw orffwys yn awr. Nid oes yn rhaid iddyn nhw bryderu gan eich bod yn gwybod beth i’w wneud. Cofiwch fod yn gysurlon ac yn fwyn bob amser nid yn awdurdodol.

4) Peidiwch â dweud wrth y meddwl sy’n rhoi caniatâd yr union beth sydd ar eich meddwl (nid yfed) a bydd yn dechrau dadlau eto.

5) Bydd hyn yn eich arwain drwy gyfnod risg uchel pan fydd yr awydd i yfed yn hynod bŵerus a llethol. Os gallwch chi droi’r awydd hwnnw i lawr o ddeg i ddau neu dri, yna gallwch ei reoli.

Os hoffech chi wneud rhywbeth ynglŷn â’ch yfed neu unrhyw broblem ddibyniaeth arall, ffoniwch Stafell Fyw Caerdydd ar 02920493895


6 views0 comments
bottom of page